top of page

Gwasanaeth cyfieithu sylwgar o safon

Oes angen cyfieithiadau Cymraeg arnoch chi sydd o'r safon orau ac sy'n cyfathrebu'n glir gyda'ch cynulleidfa? Siaradwch gyda ni!

Mae gan Idiom dros 20 mlynedd o brofiad o gyfieithu rhwng y Saesneg a'r Gymraeg. Mae gyda ni stôr o wybodaeth am arferion gwaith dydd-i-ddydd ac rydym wedi'n trwytho yn nhirwedd gymdeithasol a gwleidyddol Cymru. Dan arweiniad Elen, sydd  â doethuriaeth mewn ieithyddiaeth gymdeithasegol, rydych chi'n sicr o dderbyn cyfieithiad cywir a rhugl.

Mae gan Idiom brofiad o amrywiaeth eang o wahanol fathau o waith cyfieithu, yn cynnwys i'r sectorau cymdeithasol, gwirfoddol, preifat ac addysg, o ffaith i ffuglen, o adroddiadau hirion i gynildeb postiadau cyfryngau cymdeithasol, ac ar gyfer plant ac oedolion. Mae sylw gofalus i fanylion a chyfieithiadau sy'n gywir, yn hawdd eu deall, yn ystwyth ac yn rhugl yn nodweddu'n gwaith.

Yn Idiom caiff eich cyfieithiadau eu drafftio / golygu gan aelod cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, yr unig sefydliad proffesiynol sy'n achredu cyfieithwyr Cymraeg yn benodol.

Mewn byd ble mae pwysau amser mor aml yn drech na safon, gallwn sicrhau eich bod mewn dwylo saff gyda ni.

Byddem wrth ein boddau yn siarad gyda chi am eich anghenion cyfieithu. Os hoffech sgwrs, anfonwch neges neu godi'r ffôn ar bob cyfrif.

Am Elen

idiom   (eb)

1    ymadrodd na allwch ei gyfieithu air am air i iaith arall; dywediad sy'n nodweddiadol ac yn perthyn i iaith arbennig, e.e. gwyn ei byd, gorau glas, nerth ei ben; priod-ddull  idiom

2   (mewn cerddoriaeth neu arlunwaith) nodweddion arddull arbennig  idiom

Geiriadur Cymraeg Gomer

Yn ieithydd sydd â phrofiad o weithio mewn nifer o feysydd cysylltiedig ag iaith, yn cynnwys ymchwil iaith a dysgu, mae Elen yn dod â'i gwybodaeth helaeth i holl waith cyfieithu Idiom. Yn sgil ei hymchwil doethuriaeth, pan astudiodd hi'r defnydd o wahanol arddulliau Cymraeg, mae hi'n gyfarwydd â'r ffyrdd cynnil y mae pobl yn addasu ac yn chwarae gydag iaith yn ei hamryw gyd-destunau. Mae hi wedi gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru mewn rôl a oedd â throsolwg dros y diwydiant cyfieithu, a chafodd ei hyfforddiant cyfieithu mewn dau gwmni cyfieithu sefydledig. Mae ganddi gymhwyster dysgu Cymraeg i Oedolion, ac mae hi'n aelod cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Aelodaeth gyflawn yw'r lefel uchaf ar gyfer cyfieithwyr sy'n gweithio yn y Gymraeg.

Mae Elen yn gyfieithydd achrededig tu hwnt o brofiadol a phroffesiynol a sefydlodd Idiom er mwyn cynnig cyfieithiadau o safon a fydd yn gwneud i'ch testunau ddod yn fyw yn y Gymraeg.

Dr Elen Robert Welsh translator | cyfieithydd

idiom

Gwasanaethau Iaith   | |   Welsh Language Services

13 Cawnpore Street, Penarth CF64 2JU

07951 095374

post@idiom.cymru
@idiom_cymru

  • LinkedIn
Cymdeithas Cyfieithwr Cymru logo Full Member Aelod Cyflawn

© 2025 ar gyfer / for Gwasanaethau Iaith Idiom, gan / by Wix.com

bottom of page