Ym mis Rhagfyr fe wnaethon ni arolwg bach cyflym ar Twitter am y gair ‘mewnwelediad’, sydd wedi bod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ‘insight’ yn y Gymraeg. Gyda 1.5 biliwn enghraifft o ‘insight’ yn cael eu nodi wrth chwilio ar Google, does ryfedd ei fod yn air sy’n codi’n aml i gyfieithwyr.
Ond mae’n peri penbleth i ni. Sut mae ei gyfieithu i’r Gymraeg? Yn sicr, mae ‘mewnwelediad’ yn cael ei ddefnyddio – mae Google yn nodi dros 35,000 o enghreifftiau o ‘mewnwelediad’/‘fewnwelediad’. Ac mae hyd yn oed yn cael ei argymell gan Y Termiadur Addysg a thermiaduron eraill. Ond a dweud y gwir yn blaen, da ni ddim yn rhy hoff o'r gair yma. Mae’n amlwg yn gyfieithiad uniongyrchol o’r Saesneg IN + SIGHT (er nad yw ‘gwelediad’ ar ei ben ei hun yn air cyffredin mewn Cymraeg cyfoes!) A da ni ddim yn cofio’i glywed mewn Cymraeg llafar erioed (i’w ychwanegu at y rhestr o eiriau cyffelyb). Ta waeth, da ni’n cofio siarad gyda chyfieithydd arall am y gair, a hynny flynyddoedd yn ôl, a oedd yn synnu at ein hymateb negyddol! Felly, mae'n ymddangos bod gwahaniaeth barn ymysg cyfieithwyr. Ond beth yw barn pobl eraill?
Gwahaniaeth barn ddangosodd ein holiadur bach ni hefyd. 40% yn cytuno bod ‘mewnwelediad’ yn gyfieithiad da ar gyfer ‘insight’, 33.3% yn dweud ei fod yn gyfieithiad carbwl, ac 20% yn ymateb gyda 'Sori, beth?' Gyda’i gilydd roedd yr ymatebion negyddol yn 53.3% o gymharu â’r cadarnhaol ar 40%. Dydy 53.3% ddim yn fwyafrif mawr o bell ffordd. Ond mae’n fwy nag a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016!!
O ddifri, mae yma hollt. Ond mae’r canlyniad hefyd yn rhybudd i ni gyfieithwyr ystyried a yw’r iaith a ddefnyddiwn bob amser yn taro deuddeg gyda’n cynulleidfa. Dyna ydy gwaith cyfieithydd – trosi testun i iaith arall gan gadw at arddull y gwreiddiol gystal â phosib mewn iaith sy’n cyfathrebu’n glir â’r gynulleidfa (os, yn wir, dyna mae’r gwreiddiol yn ei wneud!) Gall hynny fod yn anodd yn y Gymraeg. Dwi’n deall yn iawn y demtasiwn – a rheidrwydd weithiau – defnyddio ‘mewnwelediad’. Ond bosib iawn bod angen weithiau addasu yn ôl y cyd-destun a’r gynulleidfa. Onid oes opsiynau eraill o bryd i’w gilydd?
Ond gochelwch! Chydig o hwyl yw hyn, nid arolwg dibynadwy yn dilyn methodoleg gadarn! Wnaethon ni ddim meddwl yn galed iawn am y cwestiynau, ac roedden ni wedi’n cyfyngu braidd gan y cyfrwng – pedwar cwestiwn mae Twitter yn ei ganiatáu, a nifer fechan o nodau ar gyfer pob un o’r rheiny. At hynny, 15 o ymatebion gafwyd! Ac o’r rheiny, dydyn ni ddim yn gwybod pwy ymatebodd i’r arolwg, does dim gwybodaeth am eu cefndir nhw. Dim ond eu bod nhw’n siarad Cymraeg yn ddigon da i ateb yr arolwg ac i gynnig barn (da ni’n tybio!) Bosib mai cyfieithwyr yw’r rhai a nododd bod ‘mewnwelediad’ yn air da! Bosib eu bod nhw wedi hen arfer â’r term erbyn hyn, ac eraill sy ddim yn sgwennu cyfieitheg drwy’r dydd bob dydd yn llai cyfarwydd ag e. Ond wyddwn ni ddim am hynny chwaith. Dim ond dyfalu.
Gyda llaw, chafwyd yna ddim sylwadau gan y rhai a nododd ‘arall’, felly da ni yn y tywyllwch am hynny.
***********************
Basen ni wrth ein boddau yn clywed eich barn chi am ‘mewnwelediad’. A hefyd am unrhyw eiriau eraill, neu elfennau eraill am y Gymraeg a/neu gyfieithu. Sgrifennwch sylw isod.
***********************
Dyma oedd geiriad y cwestiwn -
Comments