top of page

Gwella'r broses gyfieithu a sicrhau cydraddoldeb i'r Gymraeg - beth yw'r achos dros ysgrifennu triawd?

Writer: Elen
Elen
6 hours ago
4 min read

Yn ddiweddar, fe ddes i ar draws postiad ar LinkedIn am ddull cyfieithu o'r enw ysgrifennu triawd. Dwi wedi dod ar draws ysgrifennu triawd o'r blaen, rai blynyddoedd yn ôl - a gymaint ag ydw i'n meddwl bod lle iddo, mae yna gwestiynau sy angen sylw. Ac mae angen ystyried y dull yn ddim ond un offeryn yn ein bocs tŵls. Felly dyma fi'n dweud fy mhwt.


I ddechrau, ychydig o gyd-destun: bwriad ysgrifennu triawd ydy sicrhau cyfieithiadau gwell, gan ddod â'r cyfieithu i mewn i'r broses ddrafftio. Mae'n digwydd yn aml wrth gyfieithu ei bod yn anodd neu'n amhosib mynegi rhywbeth yn yr iaith darged - ac y byddai mynegiant gwahanol yn yr iaith wreiddiol yn gwneud pethau'n llawer haws i'r cyfieithydd ac yn sicrhau gwell darpariaeth i gynulleidfa'r iaith darged. Mewn sefyllfa fel sy gyda ni yng Nghymru, pan mai'r Gymraeg ydy'r iaith darged bron yn ddi-ffael, mae'n arwain yn y bôn at beth ellid ei alw'n anghydraddoldeb i'r gynulleidfa Gymraeg.


Un enghraifft sy gen i ydy hysbyseb gwelais i gan Trafnidiaeth Cymru rai blynyddoedd yn ôl yn chwarae ar yr idiom Saesneg, 'the early bird catches the worm'. Roedd hi'n hysbyseb effeithiol yn Saesneg, a bod yn deg i bwy bynnag oedd yn gyfrifol am farchnata TrC. Ond roedd yn broblem yn Gymraeg, am nad yw'r idiom honno'n bodoli yn ein hiaith ni. Roedd yr ymgyrch gyfa'n seiliedig ar yr idiom hon - yn cynnwys y darluniau. A'r gorau roedd modd i'r cyfieithydd druan ei wneud oedd rhoi 'Dywedodd deryn bach' ... oedd yn idiom Gymraeg oedd yn ymwneud ag adar, bid siŵr, ond ddim yn ffitio'r darluniau na gweddill y testun. Doedd yr hysbyseb Gymraeg ddim yn gweithio - a dim bai ar y cyfieithydd. Roedd y bai ar y broses.


Felly tybed a fyddai dull ysgrifennu triawd wedi osgoi'r broblem yma'n llwyr? Debyg iawn y byddai.


Roedd y postiad a welais i ar LinkedIn am ysgrifennu triawd yn seiliedig ar flog am y broses o lunio testun dwyieithog gan Adnodd - y corff sy'n gyfrifol am oruchwylio adnoddau addysg yng Nghymru. Roedd Adnodd wedi defnyddio dull ysgrifennu triawd i lunio eu polisi iaith, a nod y blog oedd rhoi disgrifiad o'r broses o safbwynt un o aelodau'r triawd.


Mae'n dda gweld sefydliadau yn arbrofi er mwyn canfod y ffyrdd gorau o gyflawni gwasanaethau dwyieithog a sicrhau cydraddoldeb i'r Gymraeg. Yn sicr, mae angen mwy o arbrofi a thrafod datrysiadau - a gwell dealltwriaeth o'r problemau yn y lle cynta. Gellid dadlau bod y Gymraeg wedi troi'n iaith cyfieithu yn y degawdau diwetha - nid beth wnaeth pobl frwydro mor galed drosto. 'Dyn ni wedi dod yn bell ers y dyddiau mwyaf du, ond nid dyma ben y daith - ac mae'n dda gweld cydnabyddiaeth o hynny.


Ond basai'n ddefnyddiol hefyd gweld trafodaeth am sut i benderfynu pryd i ddilyn dull ysgrifennu triawd. Pryd mae natur neu arwyddocâd y testun dan sylw yn cyfiawnhau'r costau uwch sydd ynghlwm wrth y dull? A'r cwestiwn mae angen ei ateb cyn hynny - faint yn fwy o amser - ac arian - mae'r dull yn ei gymryd o'i gymharu â phroses gyfieithu arferol? Yn sicr, mae lle i ysgrifennu triawd, ond dwi'n amau'n gryf y bydd y defnydd ohono'n gyfyngedig - a bod angen i sefydliadau ddeall ble mae'r angen, ar gyfer unrhyw destun penodol, cyn neilltuo adnoddau prin ar ei gyfer. Wedi'r cyfan, dydy hwn ddim yn ddull newydd, a does yna ddim arwydd eto bod sefydliadau wedi neidio ar y cyfle i'w fabwysiadu.


Mae yna ddatrysiadau eraill hefyd i sicrhau ein bod yn cyflawni'n well ar ddwyieithrwydd. Rhai syniadau -


💡 Beth am gasglu mwy o adborth gan ein cynulleidfaoedd Cymraeg? A bwydo'r adborth hwnnw nôl i gyfieithwyr - ac eraill sy'n ysgrifennu cynnwys yn Gymraeg. Ar sail fy mhrofiad i, does nemor ddim adborth yn cael ei fwydo nôl ar hyn o bryd. Os ydw i'n anghywir, baswn i'n falch iawn o gael gwybod.


💡 Beth am sicrhau bod gan sefydliadau sy'n gweithredu'n ddwyieithog ddigon o staff sy'n gallu drafftio'n ddwyieithog yn y lle cynta? Y ffordd orau o gyflawni polisi iaith ydy sicrhau'r sgiliau gofynnol drwy'r broses recriwtio.


💡 Beth am i sefydliadau fonitro cynnydd eu staff ar ddatblygiad eu sgiliau dwyieithog? Yn rhy aml, mae'r gofyniad am lefel benodol o Gymraeg mewn hysbysebion swydd yn ddim mwy na geiriau.


💡 Beth am i dimau cyfieithu o fewn sefydliadau droi, yn hytrach, yn dimau cefnogi'r Gymraeg? Fe allan nhw gynnig gwasanaeth cyfieithu arferol, a hefyd wasanaeth mireinio neu brawfddarllen i gefnogi staff â sgiliau dwyieithog i ddrafftio'u hunain - ac i wella. Byddai hynny'n cefnogi'r ail a'r trydydd pwynt, gan gynyddu'r gyfran o staff sydd â lefel uchel o sgiliau dwyieithog.


💡 Ac wrth gwrs, mae angen sicrhau arweinyddiaeth gadarn ar ddwyieithrwydd. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi'i gynnwys ym mholisi iaith Adnodd (y testun a gafodd ei lunio drwy ddull ysgrifennu triawd). Yn achos Adnodd, y ffordd o wneud hynny ydy penodi aelod o'r Bwrdd i fod yn bencampwr dros y Gymraeg. Mae diwylliant sefydliad yn cael ei siapio gan y bobl sy ar y top, ac mae hynny'n cynnwys diwylliant iaith.


Mae llawer y gallwn ni ei wneud os ydyn ni wir eisiau sicrhau cydraddoldeb i'r Gymraeg. Mae ysgrifennu triawd yn un datrysiad. Ond mae angen meddwl yn llawer ehangach hefyd. Ac ehangu'r drafodaeth. Mae'r Gymraeg yn haeddu bod yn fwy na bocs i'w dicio.

Recent Posts

See All

Comments


idiom

Gwasanaethau Iaith   | |   Welsh Language Services

13 Cawnpore Street, Penarth CF64 2JU

07951 095374

post@idiom.cymru​
@idiom_cymru

  • LinkedIn
Cymdeithas Cyfieithwr Cymru logo Full Member Aelod Cyflawn

© 2025 ar gyfer / for Gwasanaethau Iaith Idiom, gan / by Wix.com

bottom of page